Yn ystod ei hamser fel ymarferydd y mae Ruth wedi gweithio gydag amrywiaeth o dimau chwaraeon, digwyddiadau ac amgylcheddau eraill megis gyda Heddlu Dyfed-Powys yn eu hadran Iechyd Galwedigaethol.
Prif angerdd Ruth yw rygbi ac mae wedi bod yn gweithio fel rhan o dîm meddygol Clwb Rygbi Llanymddyfri ers dros ddegawd ac ar hyn o bryd hi yw arweinydd meddygol y clwb. Mae hi hefyd wedi bod yn ymwneud ag URC gan weithio’n bennaf o fewn llwybr datblygu Alltudion Cymru ers blynyddoedd ac yn fwyaf diweddar mae wedi bod yn cefnogi carfan dan 20 Cymru.
Ymhlith y timau rygbi eraill y mae Ruth wedi bod yn ymwneud â nhw dros y blynyddoedd mae’r Scarlets (yn gweithio gyda’r timau gradd oedran hyd at y garfan Hŷn), Merched Llambed, Coleg Sir Gâr, Coleg Llanymddyfri, Rhanbarth Ceredigion a Rhanbarth Mynydd Mawr a Dinefwr.
Dros y blynyddoedd mae Ruth wedi darparu triniaeth meinwe meddal a chymorth meddygol mewn llawer o ddigwyddiadau chwaraeon. Mae digwyddiadau rhedeg a thriathlon yn cynnwys Iron Man Cymru, hanner marathon Abertawe a digwyddiadau rhedeg lleol eraill. Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn mae Ruth wedi cefnogi mudiadau'r CFfI a'r Urdd i ddarparu gwasanaeth meddygol ar gyfer ystod o'u cystadlaethau chwaraeon.
Y mae gan Ruth yswiriant llawn ac yn aelod aur achrededig Lefel 4 Cymdeithas Tylino Chwaraeon (SMA).
Y mae Ruth hefyd yn aelod llawn o'r Gymdeithas Adsefydlydd ac Hyfforddwyr Chwaraeon Prydeinig (BASRAT).
Graddiodd Ruth o Brifysgol Metropolitan Caerdydd yn 2013 gyda gradd dosbarth cyntaf mewn BSc (Hons) Sports Conditioning, Rehabilitation & Massage. Ers hynny mae Ruth wedi bod yn pellhau ei haddysg ac yn 2016 wedi cwblhau gradd Meistr ym Mhrifysgol Santes Fair Twickenham yn MSc Sports Rehabilitation.
Y mae gan Ruth y cymwysterau ychwanegol canlynol:
Aciwbigo Meddygol / Nodwyddau Sych OMT
Aciwbigo Meddygol Uwch OMT
Trin Meinwe Meddal â Chymorth Offeryn OMT
Triniaeth Osteopathig Asgwrn y Cefn OMT
Rheoli Clwyfau a Pwythau LUBAS
Cwrs Gofal ar Unwaith mewn Rygbi URC (Lefel 3)